100% satisfaction guarantee Immediately available after payment Both online and in PDF No strings attached
logo-home
Y FERCH WRTH Y BAR TGAULLENYDDIAETH GYMRAEG $14.45   Add to cart

Exam (elaborations)

Y FERCH WRTH Y BAR TGAULLENYDDIAETH GYMRAEG

 3 views  0 purchase
  • Course
  • Institution

Y Ferch Wrth y Bar Llenyddaieth Gymraeg TGAU - nodiadau adolygu

Preview 2 out of 7  pages

  • January 4, 2024
  • 7
  • 2023/2024
  • Exam (elaborations)
  • Questions & answers
  • 2
avatar-seller
Sefydlwyd Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd ym 1963 gan Gymdeithas Clwb Cymraeg
Caerdydd fel clwb cymdeithasol cyfrwng Cymraeg. Enwyd y clwb ar ôl Ifor Bach sef
Ifor ap Cadifor neu Ifor Meurig, Arglwydd Senghennydd yn y ddeuddegfed ganrif.




Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor

gan Rhys Iorwerth



Yn fan hyn, aeafau’n ôl,
yn ddifaddau o feddwol,
fe’i gwelais; estynnais stôl.

Ordrais beint ar draws y bar
a’i gwylio, yn llawn galar,
yn ei sgert trwy’r mwg sigâr.

Yn ei llygaid tanbaid hi
roedd ’na gefnfor o stori,
a hyder a direidi

yn eu llawnder i’n herio,
trwy ryw wyrth, y dôi ein tro
ond a dal i’w lled-wylio...

Ym mrad yr edrychiadau, -
yn sŵn ein dawns ni ein dau,
am ei swyn mi es innau

yn rhy ddedwydd freuddwydiol,
yn ddifaddau o feddwol,
yn fan hyn, aeafau’n ôl.

, TEITL Y GERDD

Mae’r teitl yn dweud wrthym bod pellter rhwng y bardd a’r ferch. Mae hi
“wrth y bar” a nid wrth ei ochr ef. Mae’r ffaith bod y ferch yn ddi-enw yn
atgyfnerthu hyn. Mae’r cyfeiriad at glwb Ifor Bach, sef lle sydd yn gyfarwydd
i Gymry Cymraeg, yn ei wneud hi’n haws i ni uniaethu gyda’r gerdd.

Englyn 1
Hel meddyliau y mae’r bardd am adeg ‘aeafau’n ôl’ pan welodd ferch a wnaeth
argraff arno am ei bod “yn ddifaddau o feddwol”. Nid ‘yn feddw’ ond ‘meddwol’, yw’r
ferch, hynny yw mae hi’n cael yr un effaith a’r ddiod gadarn arno – mae’r bardd yn
teimlo’n feddw wrth edrych arni hi.

(geirfa: meddwol = ‘intoxicating’)

Englyn 2
Mae’r bardd wedi meddwi ar harddwch y ferch cyn iddo ddechrau yfed. Nawr mae’n
archebu peint ac yn edrych arni trwy’r mwg sigâr. Mae hyn yn dyddio’r gerdd i’r
adeg cyn bod ysmygu wedi’i wahardd mewn llefydd cyhoeddus ac yn ein hatgoffa o’r
geiriau ‘aeafau’n ôl’, sy’n golygu bod blynyddoedd wedi mynd heibio ers
y cyfarfyddiad hwn.

Sylwer yn y ddwy bennill gyntaf taw dim ond un st ôl mae’r bardd yn estyn amdani a
dim ond un peint mae e’n archebu. Mae hyn yn adlewyrchu ei ddiffyg hyder .



Hyd yn oed yn ei gwylio hi mae’r bardd “yn llawn galar”. Mae’r bardd yn galaru
amdani o’r cychwyn cyntaf ac mae hyn yn atgyfnerthu’r awgrym na wnaeth
unrhywbeth ddod o’r achlysur. Roedd e wedi penderfynu yn syth ei bod hi tu hwnt
i’w afael.

Mae'r bardd yn drist – ydy e’n ‘llawn galar’ oherwydd ei fod yn gwybod fod merch
fel hon tu hwnt i’w gyrraedd? Neu – ydy e’n dyfaru peidio â siarad gydag hi?

Ydy e’n dyfaru na wnaeth e achub y cyfle i siarad gyda hi? (achub y cyfle = to seize
the opportunity)

The benefits of buying summaries with Stuvia:

Guaranteed quality through customer reviews

Guaranteed quality through customer reviews

Stuvia customers have reviewed more than 700,000 summaries. This how you know that you are buying the best documents.

Quick and easy check-out

Quick and easy check-out

You can quickly pay through credit card or Stuvia-credit for the summaries. There is no membership needed.

Focus on what matters

Focus on what matters

Your fellow students write the study notes themselves, which is why the documents are always reliable and up-to-date. This ensures you quickly get to the core!

Frequently asked questions

What do I get when I buy this document?

You get a PDF, available immediately after your purchase. The purchased document is accessible anytime, anywhere and indefinitely through your profile.

Satisfaction guarantee: how does it work?

Our satisfaction guarantee ensures that you always find a study document that suits you well. You fill out a form, and our customer service team takes care of the rest.

Who am I buying these notes from?

Stuvia is a marketplace, so you are not buying this document from us, but from seller ruthcjones25. Stuvia facilitates payment to the seller.

Will I be stuck with a subscription?

No, you only buy these notes for $14.45. You're not tied to anything after your purchase.

Can Stuvia be trusted?

4.6 stars on Google & Trustpilot (+1000 reviews)

76669 documents were sold in the last 30 days

Founded in 2010, the go-to place to buy study notes for 14 years now

Start selling
$14.45
  • (0)
  Add to cart